Does dim byd fel ein lori geffylau ni!
Yn cysgu pedwar, mae'r lori wedi ei throi yn brofiad glampio byth gofiadwy!
Nid yn unig bod y lori yn anhygoel a wedi ei gorffen i safon uchel mae'r golygfeydd yn wych yma. Eisteddwch y tu allan yn edrych ar y ser o flaen tan agored yn gwylio'r haul yn mynd lawr dros benrhyn llyn.
Mae llecyn o dir o flaen y lori a bwrdd picnic a lle i gynau tan yn ogystal a BBQ; pob dim i chi gael amser bendigedig gyda ni. Mae'r lori yn cysgu 4; un gwely dwbl bychan uwch ben y cab a'r llall yw'r sofa sydd yn agor allan yn wely dwbl bychan arall. Mae'r lori felly yn berffaith ar gyfer cyplau neu deuluoedd bychain. Mae cegin fach yn y lori ynghyd a chawod gynes a mae'r tu bach y tu allan. Ar ddiwedd y dydd cewch wylio film ar y projector 60 modfedd, neu chwarae gem o flaen tanllwyth o dan sydd yn y stof goed yn y lori.
Cymrwch olwg ar ein oriel luniau isod!
4 noson o ddydd Llun | 3 noson o ddydd Gwen | 7 noson o Gwen/Llun | 2 noson o dydd Gwener | |
Tymor Tawel | £240 | £240 | £350 | £160 |
Tymor Canolig | £280 | £250 | £450 | £190 |
Tymor Prysur | £350 | £300 | £550 | £220 |
Cwestiynnau Aml
A gawn ni aros am un neu ddwy noson? - Cewch yn wir, cysylltwch gyda ni..
A ydi anifiieliaid anwes yn cael aros? Ydyn wir! Dim problem.