Gwersylla Dan y Ser - Y Logo
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni!
Gwersylla Moethus
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni am wyliau arbennig!
Pabell Ceiri
Mae pabell Ceiri yn newydd sbon eleni ac mae hi wedi ei gosod rhwng pabell Carnguwch a'r Eifl, dim ond 100m oddi wrth y toiledau, y cawodydd a'r gegin.

Mae'r babell hon yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau cefn gwlad ar ei orau a cewch fwynhau golygfa wych o'r afon Erch yn llifo heibio'r babell o'ch gwely! Gan ei bod mor agos at yr afon rydym yn awgrymu y dylid cadw llygaid ar blant bach ac efallai y byddai papell yr Eifl yn well ar eu cyfer.

Image of the Ceiri dome a relaxing break in Wales Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi. Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a charthenni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.

Cewch eistedd y tu allan o 'dan y sêr' ac o flaen tanllwyth o dân yn coginio a siarad wrth edrych ar y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.

Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r geifr!

Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs! Mae papell Ceiri yn agos i’r cawodydd a’r gegin sydd o dan do, yn gyfleus os oes plant gennych chi; er hyn dylid nodi bod afon ger llaw y babell. Os am aros gyda plant bychain rydym yn awgrymu pabell yr Eifl ar eich cyfer.


Argaeledd ar Archebu
Rhestr Prisiau
Mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r costau ond cysylltwch gyda ni i ymholi am ddyddiadau penodol.
  4 noson o ddydd Llun 3 noson o ddydd Gwen 7 noson o Gwen/Llun 2 noson o dydd Gwener
Tymor Tawel £240 £240 £350 £160
Tymor Canolig £280 £250 £450 £190
Tymor Prysur £350 £300 £550 £220
Ewch i Glampio! Cysylltwch...
Ceiri Dome Gallery
Manylion Pabell; Byth sydd ynddi?
Gwely dwbl gyda dau ddror ar bob ochr ynghyd â dillad gwely.
Dau wely "Futon" sengl.
Stof ar gyfer BBQs.
Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.)
Cobenydd(ion) a gorchydd.
Carthenni Cymreig.
Llenni llawn ar y ffenestr.
Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol).
Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell.
Blychau storio (yn y gegin gymunedol).
Basged gyntaf o goed tân am ddim.
Cyflenwad o ddŵr.
Byrddau picnic.
Canwyllau bychain.
Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth.
Lanteri bychain.
Hylif golchi llestri.
Blychau ail-gylchu.
Cynaladwy?:
Nifer cyfyngedig o bebyll i osgoi gor-ddatblygiad gwledig.
Wyau ffres bob dydd.
Lleihau'r defnydd o ddwr drwy ddefnyddio toiledau compostio!
Llosgi coed, ffordd amgylcheddol o gadw'n gynes yn y babell.
Rydym yn darparu cyfleoedd i ddehongli hanes a threftadaeth leol.
Cewch gyfle i edrych ar ol ieir a chasglu wyau ffres yn ddyddiol.
Pob deunydd marchnata gael yn Gymraeg.
Rydym yn addysgu ein gwesteion o beryglon ail gartrefi.
Byddi angen:
Dillad cynnes.
Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell.
Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon.
Bag molchi.
Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl!
Ysbryd o antur a hwyl!