![]() |
|




Buom yn brysur iawn gyda'r prosiect i drawsnewid y Cwt Moch yn 2016 a rydym yn hapus iawn gyda ffrwyth y gwaith caled! 
Mae'r Cwt Moch yn berffaith ar gyfer cyplau a rydym yn caniatau cwn hefyd. Caiff ei wresogi gan stof goed 12KW fawr ond byddwch angen dod a choed gyda chi. Rydym wedi sicrhau bod cegin a baddondy modern yma, teledu lloeren, chwaraewr DVD, ac mae WI-FI araf iawn ar gael os bydd y gwynt yn chwythu yn y cyfeiriad cywir!
Gall y Cwt Moch fod yn ddelfrydol i bobl sydd a ffrindiiau a thrulu yn aros yn ein Pebyll ond efallai nad ydynt am fentro i gael y profiad Glampio ei hunain!
Rydym yn credu y gall lluniau egluro'r Cwt Moch yn llawer iawn gwell na cyflwyniad fel hwn felly cymerwch olwg ar ein oriel isod.
| 4 noson o ddydd Llun | 3 noson o ddydd Gwen | 7 noson o Gwen/Llun | 2 noson o dydd Gwener | |
| Tymor Tawel | £240 | £240 | £350 | £160 |
| Tymor Canolig | £280 | £250 | £450 | £190 |
| Tymor Prysur | £350 | £300 | £550 | £220 |
Gwely Dwbwl gyda dillad gwely.
Platiau, cyllill, ffyrc a phopeth arall i'r gegin.
Cobenyddion
Cegin Fodern.
Oergell ond does dim Rhewgell
Basged o Goed Tan
Dwr Poeth a baddondy modern
Adnoddau Ailgylchu Cwestiynnau Aml
A gawn ni aros am un neu ddwy noson? - Cewch yn wir, cysylltwch gyda ni..
A ydi anifiieliaid anwes yn cael aros? Ydyn wir! Dim problem.