Gwersylla Dan y Ser - Y Logo
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni!
Gwersylla Moethus
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni am wyliau arbennig!
Pabell Carnguwch
Dyma'r babell berffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau cefn gwlad ar ei orau. Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi. Image of the Carnguwch dome a relaxing break in Wales

Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a charthenni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.

Cewch eistedd y tu allan o 'dan y sêr' ac o flaen tanllwyth o dân yn coginio a siarad wrth edrych ar y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.

Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r geifr! Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nos! Mae pabell Carnguwch yn bell o bob man, a’r unig sŵn fydd yn tarfu arnoch yma fydd yr adar bach, yr afon a’r anifeiliaid ar y fferm.


Archebu ar Argaeledd
Rhestr Brisiau
Mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r costau ond cysylltwch gyda ni i ymholi am ddyddiadau penodol.
  4 noson o ddydd Llun 3 noson o ddydd Gwen 7 noson o Gwen/Llun 2 noson o dydd Gwener
Tymor Tawel £240 £240 £350 £160
Tymor Canolig £280 £250 £450 £190
Tymor Prysur £350 £300 £550 £220
Ewch i Glampio! Cysylltwch...
Oriel Carnguwch
Manylion Pabell; Byth sydd ynddi?
Gwely dwbl gyda dau ddror ar bob ochr ynghyd â dillad gwely.
Dau wely "Futon" sengl.
Stof ar gyfer BBQs.
Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.)
Cobenydd(ion) a gorchydd.
Carthenni Cymreig.
Llenni llawn ar y ffenestr.
Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol).
Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell.
Blychau storio (yn y gegin gymunedol).
Basged gyntaf o goed tân am ddim.
Cyflenwad o ddŵr.
Byrddau picnic.
Canwyllau bychain.
Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth.
Lanteri bychain.
Hylif golchi llestri.
Blychau ail-gylchu.
Cynaladwy?:
Nifer cyfyngedig o bebyll i osgoi gor-ddatblygiad gwledig.
Wyau ffres bob dydd.
Lleihau'r defnydd o ddwr drwy ddefnyddio toiledau compostio!
Llosgi coed, ffordd amgylcheddol o gadw'n gynes yn y babell.
Rydym yn darparu cyfleoedd i ddehongli hanes a threftadaeth leol.
Cewch gyfle i edrych ar ol ieir a chasglu wyau ffres yn ddyddiol.
Pob deunydd marchnata gael yn Gymraeg.
Rydym yn addysgu ein gwesteion o beryglon ail gartrefi.
Byddi angen:
Dillad cynnes.
Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell.
Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon.
Bag molchi.
Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl!
Ysbryd o antur a hwyl!