Mae pabell Ceiri yn newydd sbon eleni ac mae hi wedi ei gosod rhwng pabell Carnguwch a'r Eifl, dim ond 100m oddi wrth y toiledau, y cawodydd a'r gegin.
Mae'r babell hon yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau cefn gwlad ar ei orau a cewch fwynhau golygfa wych o'r afon Erch yn llifo heibio'r babell o'ch gwely! Gan ei bod mor agos at yr afon rydym yn awgrymu y dylid cadw llygaid ar blant bach ac efallai y byddai papell yr Eifl yn well ar eu cyfer.
Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi.
Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a charthenni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.
Cewch eistedd y tu allan o 'dan y sêr' ac o flaen tanllwyth o dân yn coginio a siarad wrth edrych ar y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.
Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r geifr!
Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs! Mae papell Ceiri yn agos i’r cawodydd a’r gegin sydd o dan do, yn gyfleus os oes plant gennych chi; er hyn dylid nodi bod afon ger llaw y babell. Os am aros gyda plant bychain rydym yn awgrymu pabell yr Eifl ar eich cyfer.
Argaeledd ar Archebu
Rhestr Prisiau
Mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r costau ond cysylltwch gyda ni i ymholi am ddyddiadau penodol.
4 noson o ddydd Llun
3 noson o ddydd Gwen
7 noson o Gwen/Llun
2 noson o dydd Gwener
Tymor Tawel
£240
£240
£350
£160
Tymor Canolig
£280
£250
£450
£190
Tymor Prysur
£350
£300
£550
£220
Ewch i Glampio! Cysylltwch...
Ceiri Dome Gallery
Manylion Pabell; Byth sydd ynddi?
Gwely dwbl gyda dau ddror ar bob ochr ynghyd â dillad gwely. Dau wely "Futon" sengl. Stof ar gyfer BBQs. Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.) Cobenydd(ion) a gorchydd. Carthenni Cymreig. Llenni llawn ar y ffenestr. Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol). Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell. Blychau storio (yn y gegin gymunedol). Basged gyntaf o goed tân am ddim. Cyflenwad o ddŵr. Byrddau picnic. Canwyllau bychain. Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth. Lanteri bychain. Hylif golchi llestri. Blychau ail-gylchu.
Cynaladwy?:
Nifer cyfyngedig o bebyll i osgoi gor-ddatblygiad gwledig. Wyau ffres bob dydd. Lleihau'r defnydd o ddwr drwy ddefnyddio toiledau compostio! Llosgi coed, ffordd amgylcheddol o gadw'n gynes yn y babell. Rydym yn darparu cyfleoedd i ddehongli hanes a threftadaeth leol. Cewch gyfle i edrych ar ol ieir a chasglu wyau ffres yn ddyddiol. Pob deunydd marchnata gael yn Gymraeg. Rydym yn addysgu ein gwesteion o beryglon ail gartrefi.
Byddi angen:
Dillad cynnes. Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell. Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon. Bag molchi. Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl! Ysbryd o antur a hwyl!