![]() |
|






Mae'r babell yn cysgu 4, gyda un gwely dwbl a dau wely futon sengl ynddi.
Mae pob pabell yn cynnwys lamp a radio "weindio" ynghyd a stôf goed a charthenni Cymreig o safon. Mae tŷ bach ar gael o fewn tafliad carreg i'r babell ynghyd a chawodydd modern a chegin syml ar gyfer coginio os bydd tywydd gwael.Cewch gasglu wyau eich hunain yn ddyddiol a helpu i fwydo'r geifr!
Gobeithio na fydd eich cymdogion, diadell o ddefaid, yn eich cadw'n effro yn y nôs! Mae papell yr Eifl yn agos i’r cawodydd a’r gegin sydd o dan do, yn gyfleus os oes plant bychain iawn gennych chi; mae o hefyd wedi ei gau oddi wrth yr afon yn ddiogel.
| 4 noson o ddydd Llun | 3 noson o ddydd Gwen | 7 noson o Gwen/Llun | 2 noson o dydd Gwener | |
| Tymor Tawel | £240 | £240 | £350 | £160 |
| Tymor Canolig | £280 | £250 | £450 | £190 |
| Tymor Prysur | £350 | £300 | £550 | £220 |
Gwely dwbl gyda dau ddror ar bob ochr ynghyd â dillad gwely.
Dau wely "Futon" sengl.
Stof ar gyfer BBQs.
Cyllill, ffyrc, platiau, potiau a sosbeni (yn y gegin gymunedol.)
Cobenydd(ion) a gorchydd.
Carthenni Cymreig.
Llenni llawn ar y ffenestr.
Oergell a Rhewgell a Phopty (yn y gegin gymunedol).
Twll o dân (fire pit) y tu allan i'r babell.
Blychau storio (yn y gegin gymunedol).
Basged gyntaf o goed tân am ddim.
Cyflenwad o ddŵr.
Byrddau picnic.
Canwyllau bychain.
Cegin syml gymunedol gyda sinc a dŵr poeth.
Lanteri bychain.
Hylif golchi llestri.
Blychau ail-gylchu.
Nifer cyfyngedig o bebyll i osgoi gor-ddatblygiad gwledig.
Wyau ffres bob dydd.
Lleihau'r defnydd o ddwr drwy ddefnyddio toiledau compostio!
Llosgi coed, ffordd amgylcheddol o gadw'n gynes yn y babell.
Rydym yn darparu cyfleoedd i ddehongli hanes a threftadaeth leol.
Cewch gyfle i edrych ar ol ieir a chasglu wyau ffres yn ddyddiol.
Pob deunydd marchnata gael yn Gymraeg.
Rydym yn addysgu ein gwesteion o beryglon ail gartrefi.
Dillad cynnes.
Slipas neu esgidiau ysgafn ar gyfer y tu mewn i'r babell.
Bagiau cysgu ar gyfer y plant ar y gwlau Futon.
Bag molchi.
Defnydd atal pryfetach! ...rydych yn campio wedi'r cwbl!
Ysbryd o antur a hwyl!