Gwersylla Dan y Ser - Y Logo
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni!
Gwersylla Moethus
Logo Dan y Ser
Cysylltwch gyda ni am wyliau arbennig!
Y Lori!

Does dim byd fel ein lori geffylau ni! Image of the Horsebox in Wales

Yn cysgu pedwar, mae'r lori wedi ei throi yn brofiad glampio byth gofiadwy!

Nid yn unig bod y lori yn anhygoel a wedi ei gorffen i safon uchel mae'r golygfeydd yn wych yma. Eisteddwch y tu allan yn edrych ar y ser o flaen tan agored yn gwylio'r haul yn mynd lawr dros benrhyn llyn.

Mae llecyn o dir o flaen y lori a bwrdd picnic a lle i gynau tan yn ogystal a BBQ; pob dim i chi gael amser bendigedig gyda ni. Mae'r lori yn cysgu 4; un gwely dwbl bychan uwch ben y cab a'r llall yw'r sofa sydd yn agor allan yn wely dwbl bychan arall. Mae'r lori felly yn berffaith ar gyfer cyplau neu deuluoedd bychain. Mae cegin fach yn y lori ynghyd a chawod gynes a mae'r tu bach y tu allan. Ar ddiwedd y dydd cewch wylio film ar y projector 60 modfedd, neu chwarae gem o flaen tanllwyth o dan sydd yn y stof goed yn y lori.

Cymrwch olwg ar ein oriel luniau isod!

Archebu ac Argaeledd
Rhestr Brisiau
Mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r costau ond cysylltwch gyda ni i ymholi am ddyddiadau penodol.
  4 noson o ddydd Llun 3 noson o ddydd Gwen 7 noson o Gwen/Llun 2 noson o dydd Gwener
Tymor Tawel £240 £240 £350 £160
Tymor Canolig £280 £250 £450 £190
Tymor Prysur £350 £300 £550 £220
Arhoswch yn y Cwt Moch - Cysylltwch!
Oriel Cwt Moch
Manylion y Cwt Moch
Gwely Dwbwl gyda dillad gwely.
Platiau, cyllill, ffyrc a phopeth arall i'r gegin.
Cobenyddion
Cegin Fodern.
Oergell ond does dim Rhewgell
Basged o Goed Tan
Dwr Poeth a baddondy modern
Adnoddau Ailgylchu

Cwestiynnau Aml
A gawn ni aros am un neu ddwy noson? - Cewch yn wir, cysylltwch gyda ni..
A ydi anifiieliaid anwes yn cael aros? Ydyn wir! Dim problem.